Deddf Diogelu Data 1998 ac o’r 25ain o Fai 2018 y Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol – Datganiad Preifatrwydd.
Mae Neuadd Goffa Tremadog yn deall fod eich preifatrwydd yn bwysig ichi ac eich bod yn malio sut y defnyddir eich data personol. Rydym yn parchu ac yn gwerthfawrogi preifatrwydd pawb ac unrhyw ddata personol. Bydd unrhyw ddata a gasglwn yn cael ei ddefnyddio yn union fel y caniateir gan y gyfraith ac fe’i cesglir yn bwrpasol ar gyfer trefnu cytundebau hurio ystafelloedd cyfarfod.
- Diffiniadau a Dehongliad
Yn y Datganiad hwn rhoddir i’r termau a ganlyn yr ystyron canlynol:
“data personol” ydi unrhyw a phob data sy’n ymwneud â pherson adnabyddadwy y gellir ei adnabod yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol oddi wrth y data hwnnw. Bydd y diffiniad, lle’n gymwys, yn ymgorffori y diffiniadau a ddarperir yn Neddf Diogelu Data 1998 ac o’r 25ain o Fai 2018 y Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (“RDDC”).
“Ni/Ein” ydi Neuadd Goffa Tremadog
- Beth mae’r Datganiad hwn yn gwmpasu?
Mae gennym nifer o resymau cyfreithlon sy’n caniatau i Ni ddefnyddio (a/neu brosesu) eich manylion personol. Ein prif reswm cyfreithlon yw “budd Cyfreithlon” sy’n golygu budd ein busnes Ni i ddarparu cynnyrch neu wasanaeth i chi:
I gwrdd ag unrhyw rwymedigaeth gyfreithiol neu reoliadol gymwys : mae angen hyn arnom i gydymffurfio â deddforfodaeth ac i ymdrin â hawliadau cyfreithiol, i ddilyn gweithgareddau eraill sydd er lles y cyhoedd : er enghraifft, gallem fod angen defnyddio manylion personol i wneud archwiliadau yn erbyn gwyngalchu arian.
- Eich Hawliau
3.1 Fel gwrthrych data mae gennych yr hawliau canlynol o dan yr RDDC, sy’n cael eu cynnal gan gynlluniad y Datganiad hwn a’n defnydd Ni o ddata personol, fodd bynnag gallai ddigwydd na allem ddileu data pe bai angen cyfreithiol neu reoliadol i’w gadw (gweler hefyd adran 5):
3.1.1 Yr hawl i gael gwybod am Ein casgliad a’n defnydd o ddata personol:
3.1.2 Yr hawl i gael mynediad i’r data personol yr ydym Ni’n ei gadw amdanoch;
3.1.3 Yr hawl i gywiro os yw unrhyw ddata personol amdanoch sydd yn cael ei gadw gennym yn anghywir neu’n anghyflawn (cysylltwch â Ni trwy ddefnyddio’r manylion yn adran 8);
3.1.4 Yr hawl i gael eich anghofio – hynny yw, yr hawl i ofyn i Ni i ddileu unrhyw ddata personol yr ydym Ni yn ei gadw amdanoch ( Dim ond am gyfnod cyfyngedig y byddwn yn cadw eich data personol, fel yr eglurir yn adran 6, ond os hoffech i Ni ei ddileu yn gynt yna cysylltwch â Ni gan ddefnyddio’r manylion yn adran 8)
3.1.5 Yr hawl i gyfyngu ar( hynny yw, i rwystro) prosesu eich data personol;
3.1.6 Yr hawl i gludo data (derbyn copi o’ch data personol i’w ail – ddefnyddio gyda gwasanaeth neu gorff arall);
3.1.7 Yr hawl i wrthwynebu i Ni ddefnyddio eich data personol i ddibenion arbennig;
3.1.8 Hawliau yn ymwneud â gwneud penderfyniadau a phortreadu awtomataidd.
3.2 Os oes gennych unrhyw gŵyn am sut y defnyddiwn eich data personol yna byddwch cystal â chysylltu â Ni gan ddefnyddio’r manylion yn adran 8 ac fe wnawn Ein gorau i ddatrys y broblem ichi. Os na allwn helpu mae gennych hefyd hawl i gyflwyno cwyn i awdurdod goruchwyliol y DU, Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth.
3.3 Am ragor o wybodaeth am eich hawliau cysylltwch â Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth neu eich Canolfan Gynghori leol.
4 Pa Ddata a Gesglir gennym
Os anfonwch e-bost atom neu ffonio’r Ysgrifennydd fe all y byddwn yn casglu neu newid eich manylion, er enghraifft eich cyfeiriad e-bost neu rif ffôn, ynghyd ag unrhyw wybodaeth arall y dewiswch ei roi i Ni y byddem ei angen ynglŷn â’ch cytundeb.
5 Sut y Defnyddiwn eich Data?
5.1 Gweithredwn fel rheolwr data yn y defnydd helaethaf o ddata personol (yn arbennig lle byddwn NI yn penderfynu’r modd a’r pwrpas o’r defnydd hwnnw ar gyfer llogi ystafell gyfarfod a’r gwasanaethau perthynol)
5.2 I gwrdd ag unrhyw orfodaeth gyfreithiol neu reoliadol cymwys: mae angen hyn arnom fel y gallwn gwrdd â gofynion cydymffurfio â’n rheolwyr Ni(e.e. Y Comisiwn Elusennol), i gydymffurfio â deddforfodaeth ac i drafod hawliadau cyfreithiol.
5.3 I gyflawni gweithgareddau eraill sydd er lles y cyhoedd: er enghraifft, fe all y byddem Ni angen defnyddio gwybodaeth bersonol i wneud ymholiadau ynglŷn â gwyngalchu arian.
5.4 Efallai y byddem yn rhannu eich manylion personol gyda chyrff rheoliadol a chyrff gorfodi’r ddeddf, yn cynnwys yr heddlu, e.e. os fydd galw arnom NI i wneud hynny er mwyn cydymffurfio â gorfodaeth gyfreithiol neu reoliadol perthnasol.
6 Sut ac yma le y cadwn eich Data
6.1 Ni chadwn eich data personol ond tra bo rhaid inni, er mwyn ei ddefnyddio fel y disgrifiwyd, er( pe baech yn digwydd gofyn inni wneud felly) ni fyddai’n bosibl i NI ddileu data os bydd angen cyfreithiol neu reoliadol dros ei gadw.
6.2 Mae’r data a gadwn NI yn cael ei storio yn y DU.
6.3 Mae diogelwch data yn bwysig iawn i NI ac i warchod eich data chi rydym wedi mynd ati’n bwrpasol i ddiogelu a gwarchod unrhyw ddata sydd gennym NI amdanoch( hyd yn oed pe bai’n ddim mwy na’ch cyfeiriad ebost)
7 Sut y Gallwch Gael Mynediad i’ch Data
Mae gennych hawl i ofyn am gopi o unrhyw un o’ch data personol a gedwir gennym( lle cedwir data o’r fath). O dan yr RDDC byddwn yn cyflwyno unrhyw a phob gwybodaeth mewn ymateb i’ch cais yn rhad ac am ddim ichi. Cysylltwch â NI i gael rhagor o fanylion ar info@treminst.org ( rhowch YMHOLIAD RDDC ym mlwch y pwnc) neu defnyddiwch y manylion cyswllt neuadd-goffa-tremadog.org.
8 Cysylltu â NI
Os oes unrhyw gwestiwn gennych ynglŷn â’r Datganiad Preifatrwydd hwn byddwch cystal â chysylltu â NI trwy ebost yn info@treminst.org (rhowch YMHOLIAD RDDC ym mlwch y pwnc). Gwnewch yn siŵr fod eich cais yn eglur, yn arbennig os yw’n gais am wybodaeth am y data sydd gennym NI amdanoch.
CWCIS
Rydym yn defnyddio cwcis ar y safle hwn ar gyfer dibenion gweithredu hanfodol yn unig, er enghraifft i storio’ch dewis chi o iaith.
Datganiad Preifatrwydd