Llogi’r Neuadd
Mae gwahanol ystafelloedd yn Neuadd Goffa Tremadog ar gael i’w llogi ar delerau rhesymol iawn.
Y Brif Neuadd
Cliciwch neu Tapiwch i Chwyddo
Llwyfan y Brif Neuadd/Man Cyfarfod/Ymarfer
Cliciwch neu Tapiwch i Chwyddo
Y BRIF NEUADD
Mae’r Brif Neuadd ar y llawr cyntaf gydag oddeutu 488.79 troedfedd sgwâr (45.41 metr sgwâr) o arwynebedd llawr. Mae piano a monitor sgrin fflat ar gael os gofynnir amdanynt.
Mae rhan o’r brif neuadd sy’n mesur oddeutu 5.15 x 4.05m ychydig ar wahân i brif ran yr ystafell. Defnyddir y fan hon yn aml fel canolbwynt (llwyfan) yn ystod perfformiadau ond mae yr un mor addas ar gyfer cynnal cyfarfodydd (gyda lle i eistedd 12 i 16 fel y gwelir yn y lluniau) neu ar gyfer ymarferion. Gellir ei ddefnyddio hefyd ar gyfer ychwanegu at yr eisteddle i’r brif neuadd os bydd angen.
Cegin
Cliciwch neu Tapiwch i Chwyddo
Swyddfa neu Ystafell Gyfarfod Fechan
Cliciwch neu Tapiwch i Chwyddo
CEGIN
Ar y llawr cyntaf mae’r gegin hefyd sydd yn cynnwys popty a hob nwy, micro-don a rhewgell. Mae agorfa weini’n cysylltu’r Gegin â’r Brif Neuadd.
MYNEDIAD I’R ANABL
Mae darpariaeth toiled i’r anabl ar y Llawr Gwaelod.
Darparwyd lifft i gario dim mwy na dau berson ar y tro i ganiatáu mynediad i’r anabl i’r Llawr Cyntaf.
I Logi ar Dymor Byr / Hir, Swyddfa neu Ystafell Gyfarfod Fechan.
Wedi’i leoli ar lawr gwaelod y neuadd, mae ganddo arwynebedd llawr o 13.10 metr sgwâr (141.05 troedfedd sgwâr) wedi’i adnewyddu a’i addurno’n ddiweddar i gynnwys desg fawr gyfforddus a cadair, gyda ffeil storio 4-drôr, 4 silff storio fawr,, bwrdd wal gwyn sych i ysgrifennu arno, bwrdd hysbysfwrdd pin.
Byddai’n ddefnyddiol i unrhyw un a fyddai eisiau swyddfa am gyfnod byr neu dymor hir, neu hyd yn oed am ddiwrnod.
Gellid ei ddefnyddio hefyd ar gyfer ystafell gyfarfod fechan gyda seddau a byrddau ar gyfer 8 i 10 o bobl.
COSTAU LLOGI’R YSTAFELLOEDD
Y Brif Neuadd : £40.00
Swyddfa : £20.00 (am gyfnod hir cysylltwch ar Ysgrifennydd)
Ystafell Gyfarfod Fechan : £20.00
Y Gegin : £25.00
Dylid cyfeirio pob ymholiad ynglŷn â Llogi’r Neuadd i’r Ysgrifennydd ar y ffôn ar 01766 514676 neu drwy e-bost i info@treminst.org