Hanes
Yn dyddio o 1805 mae i’r adeilad a elwir yn awr yn Neuadd Goffa Tremadog hanes helaeth a diddorol.
Gweler isod drawsgrifiad o “Neuadd Goffa Tremadog 1805 – 2002 “ gan Leslie Jones.
Neuadd Goffa Tremadog 1805 – 2002
Mae’n debyg i’r adeilad a elwir yn awr yn Neuadd Goffa Tremadog gael ei godi rhwng 1805 – 10 ar dir a adenillwyd gan William Alexander Maddocks A.S. a sefydlodd dref fechan Tremadog ar ddechrau’r 19eg ganrif trwy argloddio ceg yr Afon Glaslyn. Mae’r dref yn enghraifft ddiddorol o gynllunio dechrau’r 19eg ganrif ac erys heddiw bron fel ag yr oedd bryd hynny.
Y prif adeilad yng nghanol y pentref yw Neuadd y Dref yn Sgwâr y Farchnad. Dyma adeilad deulawr o lechfaen lleol a ddefnyddiwyd ar gyfer y rhan fwyaf o’r triniad “carreg” yn ogystal â rwbel patrymog y muriau. O bosibl wedi ei godi ac yn cael ei ddefnyddio erbyn1807, fel y rhan fwyaf o’r adeiladau yn y sgwâr a adeiladwyd o’r un defnyddiau. ( crybwyllir gan Fenton yn 1810 a Hyde Hall 1809 – 11 ).
Ystyrid Sgwâr y Farchnad yn ganolbwynt ac uchafbwynt y bensaernïaeth. Cyfeirir ym mhapurau Maddocks at osodiad ac edrychiad gwahanol adeiladau ac ymddengys mai’r brif ysbrydoliaeth oedd cynllun Inigo Jones ar gyfer y farchnadfa yn Covent Garden ( marchnad dan do) Gweler y cynllun.
Rhoddwyd ystyriaeth i dai a siopau yn sgwâr y farchnad i gyfantoli effaith weledol Neuadd y Dref a’r Gwesty ar ben eithaf y llunwedd ffurf T ( roedd siopau fel unedau ar wahân yn anarferol yng Nghymru a Lloegr yn y cyfnod hwn).
Yn y 1920au cynnar dynodwyd yr Institiwt yn Gofadail y Rhyfel Byd Cyntaf ar ôl i’r adeilad gael ei brynu yn Arwerthiant Stad Tremadog yn 1921. ( roedd ynddo siop, swyddfa, parlwr, cegin, cegin fach, pum llofft a stabl fechan yn yr iard, rhent yn £15 y flwyddyn. Roedd yno hefyd swyddfa argraffu, warws gydag atig bychan, rhent £5, gyda drws allan i’r prif sgwâr (gweler y llun ).
Hyd at y 1920au defnyddid ef yn rhannol fel annedd gyda siop fferyllydd a gweithdy argraffu ar y llawr gwaelod. O 1839 Robert Isaac Jones (Alltud Eifion)1815 – 1905 oedd yn rhedeg y ddau fusnes – roedd yn fardd a golygydd oedd yn ennill ei damaid fel y fferyllydd yn y “Cambrian Pill Depot”.
“Does fawr o werth i’w brydyddiaeth” ( Llên Cymru, Stevens) ond gwnaeth waith gwerthfawr fel argraffydd i swyddfa argraffu Madoc. Hefyd cyhoeddodd gasgliad hanesyddol lleol yn dwyn y teitl “Gestiana” 1892 a ailargraffwyd ym 1975 ar achlysur Eisteddfod Genedlaethol Bro Dwyfor. Ef hefyd a gyhoeddodd “Y Brython”, cylchgrawn llenyddol a hanesyddol a ymddangosodd yn 1858 fel cyhoeddiad wythnosol a ddaeth yn ei dro yn gyfnodolyn misol nes iddo ddod i ben yn 1863.
Y golygydd oedd Daniel Silvan Evans ( 1818 – 1903 ) a ddaeth yn Athro Cymraeg yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Aberystwyth (1875 – 1883). Ef fu’n golygu’r rhan fwyaf o’r clasuron Rhyddiaith Gymraeg a gynhyrchwyd yn y cyfnod hwnnw. Roedd Tremadog yn rhan ganolog o’r adfywiad diwylliannol a hyrwyddid ar y pryd yng Nghymru. Roedd Evans yn eiriadurwr a dechreuodd waith ar eiriadur Cymraeg y gellid ei gymharu â’r geiriadur “Oxford English”.
Bu Argraffwyr Madog yn yr adeilad tan y 1920au pryd y bu iddynt symud i Borthmadog. Wedyn am gyfnod ar ôl yr Ail Ryfel Byd bu’n siop ffrwythau yng ngofal cyn-filwr. Cysylltid William Owen (1830-1865) â’r Sgwâr – yn werthwr coed wrth ei alwedigaeth roedd yn awdur emynau ac yn gyfansoddwr, fel tystia “Ar lan afonydd Babilon” a “Iesu dyrchafedig”. Mae plac er cof amdano yn y Brifysgol ym Mangor.
Roedd yr adeilad fel Neuadd Goffa yn cynnwys ystafell snwcer ( yno o hyd) a neuadd gyngerdd ( gyda digon o le i eistedd i fyny’r grisiau ar gyfer y rhan fwyaf o boblogaeth y pentref). Ceid gyrfaoedd chwist yno, cyfarfodydd cymunedol, cyfarfodydd cyhoeddus, gwrandawiadau cyhoeddus ac apeliadau dinesig a chynllunio.
Yn ystod y 1930au hwyr daeth yn ganolfan amddiffyn gwladol a digwyddiad o bwys oedd rhannu masgiau nwy i’r pentref cyfan a’r ffermydd cyfagos.
Defnyddir rhan o’r adeilad o hyd fel man cynnal arddangosfa gelfyddyd yn yr haf. Cynhelir cyfarfodydd cangen leol Sefydliad y Merched a chyngherddau i fyny’r grisiau ynghyd â meithrinfa cyn oed ysgol. Hefyd symudwyd rôl yr Orsaf Bleidleisio o’r ysgol gynradd i’r Neuadd.
O ganol y 1920au am dros 40 mlynedd roedd yno lyfrgell ardderchog o rai miloedd o lyfrau, yn cynnwys Daniel Owen, Henty, Dickens ac ymlaen i Eifion Wyn. Gwerthwyd y rhain i gyd i gwrdd â chostau atgyweirio cynyddol i’r adeilad ond ar draul colled fawr i’r pentref o safbwynt diwylliant.
Roedd William Jones 1896 – 1961 (Llanc Ifanc o Lŷn) hefyd yn llyfrgellydd am gyfnod (gweler Stevens) a bu’n byw yn y pentref am gryn amser. Yma yr ysgrifennodd ran helaeth o’i farddoniaeth gan gyhoeddi “Adar Rhiannon” yn 1947 a “Sonedau a Thelynegion” yn 1950 (gweler yma “Y Graig” fel enghraifft.
Prin iawn fu’r adnoddau, fel mewn adeiladau cyhoeddus eraill ar y cyfan, ond trwy gydol ei fodolaeth am bron i 200 mlynedd bu’n ganolbwynt i’r gymuned. Bellach mae ei gyfraniad diwylliannol i lenyddiaeth Cymru bron yn angof ond erys ei ddefnydd a’i weithgareddau heddiw ac i’r dyfodol mor ddichonadwy ag erioed.
Llyfryddiaeth a ffynonellau gwybodaeth
- R.C.A.M. Wales, 1959, Vol 2, Ynyscynhaearn.
- Topographical Dictionary of Wales, Vol 2, Samuel Lewis, 1834.
- Y Gestiana, Alltud Eifion, 1892.
- Y Brython, 1858 – 63.
- Oxford Companion to the Literature of Wales, Stevens, 1986.
- Hanes Porthmadog, Edward Davies, 1913.
- Porthmadog, Myfanwy Morris, Gwynedd Archives.
- Maddocks and the Wonder of Wales, Elizabeth Beazley, 1967.
- Hanes cychwyn yr achos yn Nhremadog, 1810 – 1960.
- Tremadog and Porthmadog Estate Sale, 1892.
- Tremadog Estate Sale, Jan 1921.
- Caernarvonshire Records, Catalogue 1968.