Llogwch y neuadd ar gyfer eich gweithgaredd

Amdanom Ni

Yn dyddio’n ôl i 1805 mae’r adeilad a adwaenir yn awr fel Neuadd Goffa Tremadog wedi ei leoli ar Sgwâr y Farchnad yn nhre Tremadog, ger Porthmadog, Gogledd Cymru.

Mae iddo hanes helaeth a diddorol, ac fe’i defnyddiwyd yn gynharach fel fferyllfa ac argraffdy . Heddiw mae’n ganolbwynt gweithgareddau lleol, fel Canolfan Gymunedol a Neuadd Gyfarfod.

Gellir llogi prif neuadd ac ystafelloedd cyfarfod Neuadd Goffa Tremadog yn ddyddiol. Gweler ein tudalen Llogi’r Neuadd am ragor o wybodaeth.

  • Roedd y lle yn berffaith ar gyfer ein anghenion, sef lleoliad yn agos i Borthmadog gyda digon o le i 50 o bobl i gynnal cyfarfod. Roedd Prif Ystafell Neuadd Goffa Tremadog yn ddelfrydol ar gyfer hyn.

    Llogwyd y Neuadd 2019
Hafan